- Advertisement -
Home Election Rhun ap Iorwerth yn ymweld â Chaerfyrddin cyn etholiad hanesyddol i’r Senedd 

Rhun ap Iorwerth yn ymweld â Chaerfyrddin cyn etholiad hanesyddol i’r Senedd 

1
19
- Advertisement -

Bu Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn ymgyrchu yn nhref Caerfyrddin heddiw (dydd Mercher, 29 Ebrill), ychydig dros wythnos cyn i bobl Cymru bleidleisio mewn etholiad hanesyddol i’r Senedd.

Mae’r arolygon barn diweddaraf yn awgrymu bydd yr etholiad yn agos tu hwnt rhwng Plaid Cymru a Reform, gyda Llafur – sydd wedi ennill pob etholiad i’r Senedd ers ei sefydlu yn 1999 – ymhell ar eu holau nhw. Mae Sir Gaerfyrddin, sy’n cwmpasu etholaethau San Steffan Caerfyrddin a Llanelli, yn ardal lle mae disgwyl brwydr hynod dynn rhwng y ddwy blaid.

Yn siarad ar Sgwâr Caerfyrddin, safle hanesyddol i’r Blaid lle cyhoeddwyd fod Gwynfor Evans wedi’i ethol fel Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn 1966, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

- Advertisement -

“Mewn dim ond 8 diwrnod, mae gan Sir Gâr a Chymru y cyfle i wneud hanes drwy ethol y Llywodraeth Cymru gyntaf sy’n atebol i bobl Cymru yn unig.

“Gydag ychydig dros wythnos i fynd cyn i bobl Cymru fynd i’r gorsafoedd pleidleisio, mae’n amlwg bod yr etholiad hwn yn ras dau geffyl rhwng Plaid Cymru a Reform. I sicrhau arweinyddiaeth newydd i Gymru, cynllun go iawn i’w gyflawni, ac i atal rhaniad ac anhrefn Farage a Reform, pleidleisiwch dros Blaid Cymru.”

Ychwanegodd Cefin Campbell, yr ymgeisydd ar frig rhestr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin:

“Mae Llafur wedi gadael cymunedau ar hyd y sir hon i lawr am yn rhy hir, gan beidio rhoi cefnogaeth digonol i’n gwasanaeth iechyd, ein hysgolion a’n cynghorau lleol.

“Mae hi mor galonogol siarad gyda chymaint o bobl ar y stepen drws sy’n troi at Blaid Cymru fel yr unig blaid sy’n fodlon sefyll dros Gymru, rhoi arweinyddiaeth newydd i ni a rhwystro llywodraeth Reform UK.”

- Advertisement -
Previous articlePlaid Cymru says business rates system is rigged against Llanelli town centre
Next articleRhun ap Iorwerth visits Carmarthen ahead of historic Senedd election

1 COMMENT

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content