- Advertisement -
Home FAW Trenau ychwanegol ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed.

Trenau ychwanegol ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed.

0
21
- Advertisement -

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg trenau ychwanegol i sicrhau y gall y ‘Wal Goch’ gyrraedd a gadael y brifddinas ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Gwlad Belg.

Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr pêl-droed Cymru deithio i Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Llun, 13 Hydref 2025, gyda rhagor gapasiti a gwasanaethau trên wedi’u hail-amseru ar waith ar hyd llwybrau allweddol er mwyn helpu i gefnogi Cymru yn ei hymgais i ennill ei lle yng Nghwpan y Byd.

I gynorthwyo cefnogwyr sy’n teithio, bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaeth hwyrach i Ogledd Cymru o Gaerdydd ar ôl y gêm.

- Advertisement -

Cynghorir cefnogwyr i ddefnyddio gwefan neu ap Trafnidiaeth Cymru i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf o ran amserlenni, sy’n cynnwys manylion am wasanaethau ychwanegol sy’n cael eu darparu ar ôl y gêm; Gemau rhyngwladol Cymru | Trafnidiaeth Cymru

Dywedodd Georgie Wills, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn deall bod y gêm yn erbyn Gwlad Belg yn un o gemau pwysicaf ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd.

“Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu ar gyfer y ‘Wal Goch’ fel y gallan nhw gyrraedd mewn pryd i gefnogi’r tîm a mynd adref yn ddiogel.”

Yr orsaf reilffordd agosaf at y stadiwm yw Parc Ninian, sydd tua phum munud ar droed o’r maes. Atgoffir cefnogwyr y bydd y gwasanaethau ychwanegol yn brysur ac fe’u cynghorir i gyrraedd yr orsaf yn brydlon ar ôl y chwiban olaf.

Anogir cefnogwyr i brynu tocynnau cyn mynd ar y trên drwy ap neu wefan TrC: Prynu tocynnau trên | Tocynnau trên rhad – trc.cymru 

- Advertisement -
Previous articleExtra trains for Football World Cup qualifier.
Next articleHalloween At Cynheidre
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content