Mae Simon Wright, perchennog Wright’s Food Emporium yn Llanarthne sydd gyda thros 30 mlynedd o brofiad yn y sector lletygarwch a bwyd yng Nghymru, wedi cael ei benodi i gadeirio Gweithgor Arbenigol fydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygu Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru.
Cafodd y newyddion o gyhoeddiad y strategaeth a’r penodiad gan Llŷr Gruffydd AS, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cael ei groesawu gan Nerys Evans, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Sir Gaerfyrddin.
Cylch gorchwyl y Gweithgor Arbenigol newydd fydd i ddarparu argymhellion ynghylch yr heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n wynebu system fwyd Cymru, yn cynghori ar sut i fesur llwyddiant, i ddatblygu cydweithrediad hirdymor rhwng Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach a’r diwydiant bwyd a diod.
Y gobaith yw y bydd y strategaeth newydd yn newid y ffordd mae Cymru’n meddwl am y system fwyd gyfan o’r fferm i’r fforc.
Dywedodd cadeirydd newydd y Gweithgor Arbenigol, Simon Wright:
“Mae Cymru’n rhagori yn y maes bwyd a diod, ond mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i dorri drwodd a sicrhau ein bod ni’n gwneud pethau’n iawn i’n diwydiant a’n gwlad.“
“Dw i’n croesawu uchelgais y Llywodraeth newydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chynhyrchwyr, busnesau a chymunedau i’w gwireddu.
Ychwanegodd Nerys Evans AS:
“Mae ffermwyr yma yng Nghymru yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy o’r ansawdd uchaf, ac mae hynny’n arbennig o wir yma yn Sir Gâr.
“Mae sicrhau cynaliadwyedd y sector yn hollbwysig, wrth i ni gryfhau cadwyni cyflenwi bwyd, gwella diogelwch bwyd, a rhoi gwell cymorth i’r rheiny sy’n cynhyrchu bwyd ac sy’n cynnal ein heconomi wledig, cymunedau cefn gwlad a’r iaith Gymraeg. Mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn edrych ar ddysgu ein plant am fwyd, coginio ac am y cyfoeth o fwyd lleol, iach sydd ar gael.
“Rwyf yn falch iawn bod Simon Wright wedi cytuno i arwain y gwaith pwysig hwn, fel rhywun sy’n dod â degawdau o brofiad, mewnwelediad ac arbenigedd i sicrhau ein bod yn ystyried y system fwyd gyfan yn ein dull gweithredu.”
Mae disgwyl i’r gweithgor gyflwyno ei argymhellion i weinidogion Llywodraeth Cymru’r flwyddyn nesaf.















