- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Bwrdd iechyd yn chwilio am arddwyr gwirfoddol i gefnogi mannau iachâd newydd...

Bwrdd iechyd yn chwilio am arddwyr gwirfoddol i gefnogi mannau iachâd newydd yn Ysbyty Tywysog Philip

0
23
- Advertisement -

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn galw ar bobl leol sy’n frwdfrydig dros arddio i wirfoddoli eu sgiliau i helpu i gynnal dwy ardd therapiwtig newydd yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli. 

Bydd y gerddi newydd, a grëwyd gyda chefnogaeth apêl codi arian diweddar, yn gwasanaethu ward Mynydd Mawr, uned adsefydlu gofal henoed 15 gwely, a ward Bryngolau, uned iechyd meddwl oedolion hŷn 15 gwely.

Disgwylir i’r gerddi gael eu hagor ym mis Ebrill 2026, a byddant yn darparu mannau diogel, llawen le gall cleifion fwynhau awyr iach, ymarfer corff ysgafn, a manteision adferol natur. Byddant hefyd yn cynnig amgylchedd heddychlon i staff ac ymwelwyr.

- Advertisement -

“Bydd y gerddi hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i les ac adferiad ein cleifion,” meddai Gareth Phillips, Uwch Nyrs Gofal ar ward Mynydd Mawr. “Mae cael gwirfoddolwyr i’w helpu i’w cynnal yn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fannau bywiog a chroesawgar i bawb.”

Ychwanegodd Lauren Hughes, Rheolwr Ward ward Bryngolau: “Mae’r gerddi newydd wedi derbyn cefnogaeth mor anhygoel gan ein cymunedau lleol, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau gyda’n gwirfoddolwyr garddio a fydd wir yn cefnogi lles ar y wardiau.”

Mae Hywel Dda yn chwilio am wirfoddolwyr sydd â phrofiad garddio a gwybodaeth ymarferol dda am gynnal a chadw gerddi tymhorol.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y bwrdd iechyd: “Mae cefnogaeth barhaus gan ein cymunedau lleol mor bwysig. Gwnaed y gerddi hyn yn bosibl diolch i roddion hael, a bydd gwirfoddolwyr yn ein helpu i gynnal eu heffaith am flynyddoedd i ddod.”

Rhaid cyflwyno datganiadau o ddiddordeb erbyn 26 Ionawr 2026 – anfonwch e-bost at: hdd.futureworkforceteam@wales.nhs.uk

- Advertisement -
Previous articleLabour UK Government publishes first GB Road Safety strategy in over a decade
Next articleHealth board seeks volunteer gardeners to support new healing spaces at Prince Philip Hospital
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content