- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Côr lleol yn codi £1,000 ar gyfer uned cemotherapi trwy gyngerdd blynyddol

Côr lleol yn codi £1,000 ar gyfer uned cemotherapi trwy gyngerdd blynyddol

0
21
- Advertisement -

Mae côr lleol, a ddaeth ynghyd am un noson yn unig bron i 14 mlynedd yn ôl, wedi rhoi elw ei sioe ddiweddaraf i uned cemotherapi yn Llanelli.

Cynhaliodd côr y Mamau a’r Merched, o Lanelli, gyngerdd Nadolig ym mis Tachwedd 2025. Rhoddwyd yr arian a godwyd o’r digwyddiad, a oedd yn gyfanswm o £1,000, i’r Uned Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

Canodd y côr gyda’i gilydd am y tro cyntaf ar gyfer digwyddiad penodol bron i 14 mlynedd yn ôl, ond roeddent mor hoff ohono nes eu bod wedi parhau byth ers hynny.

- Advertisement -

“Roedd i fod i fod yn ddigwyddiad ‘un noson yn unig’, ond roedden ni wrth ein bodd ac yn parhau i ganu gyda’n gilydd,” meddai Jacqueline Wain, un o aelodau’r côr. “Dros y blynyddoedd rydym wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau Cymru.”

Ychwanegodd: “Bob blwyddyn, rydym yn dewis elusen neu achos da ar gyfer ein Cyngerdd Nadolig. Ar gyfer Cyngerdd Nadolig 2025, penderfynon ni godi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip gan ein bod ni i gyd, ar un adeg yn ein bywydau, wedi ein cyffwrdd gan ganser.

“Dyma’r peth gorau a wnawn bob blwyddyn. Codwyd £1,000 mewn un noson. Roeddwn i’n disgwyl codi rhwng £700 ac £800, felly at ei gilydd, roedd yn noson werth chweil.”

Dewisodd y côr ganeuon i gyd-fynd â’u thema ‘Gyda’n Gilydd ar gyfer y Nadolig’, a oedd yn cynnwys Ring in the Season o Olaf’s Frozen Adventure a That Christmas Morning Feeling o’r ffilm Spirited. A chynhaliodd Briony Wain, merch Jacqueline, gwis ar y noson hefyd.

Dywedodd Kath Watkins, Prif Nyrs, Uned Ddydd Cemotherapi: “Ar ran y staff a’r cleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, hoffwn ddiolch iddynt am eu hymdrechion codi arian a arweiniodd at rodd hael iawn o £1,000.

“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch.”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/

- Advertisement -
Previous articleDangerous Driver Sentenced Following A Police Chase Through Llanelli
Next articleLocal choir raises £1,000 for chemo day unit through annual concert
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content