Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o fod yn rhan o gydweithrediad GIG Cymru â Pride Cymru i nodi Wythnos Rhithwir Pride GIG Cymru (24 – 30 Awst), gan ddathlu amrywiaeth a chynhwysiant yng ngweithlu’r GIG a’n cymunedau.
Mae Wythnos Rhithwir Pride GIG Cymru yn rhedeg ochr yn ochr ag Wythnos Ar-lein Pride Cymru ac mae yna nifer o ddigwyddiadau y gallwch gymryd rhan ynddynt i gefnogi staff a chleifion LGBTQ + ledled Hywel Dda, boed hynny fel aelod o rwydwaith ENFYS neu i ddangos eich cefnogaeth fel cynghreiriad. Beth am gynnal parti LGBTea ddydd Iau 27 Awst, am 11am a mewngofnodi i Teams i rannu eich dathliadau?
Fe allech chi ymuno â noson gŵyl ffilm LGBT y noson honno, dan ofal gwobr IRIS. Efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn gwrando ar y drafodaeth banel croestoriadoldeb ac amrywiaeth rhyw ar y dydd Mercher, neu ddod â thîm at ei gilydd i gymryd rhan yn y cwis LGBT nos Wener.
Y rhestr lawn o ddigwyddiadau ar gyfer mis Awst yw:
- Dydd Llun 24ain – Llyfryn Barddoniaeth LGBT + GIG Cymru a darllen cerdd buddugol – llyfryn barddoniaeth
- Dydd Mawrth 25ain – Amser Stori Drag GIG Cymru www.dragqueenstoryhour.co.uk – Archebu lle
- Dydd Mercher 26ain – Trafodaeth banel hunaniaeth rhyw – Archebu lle
- Dydd Iau 27ain – Sesiwn drafod Amser LGBTea ‘Cuppa & Cake’, Ymunwch â chyfarfod MSTeams (11am), Ymunwch â chyfarfod MSTeams (3pm), Gŵyl Ffilm LGBT +, dan ofal Gwobr Iris (7pm & 9pm), Archebu lle
- Dydd Gwener 28ain – Noson Cwis LGBT GIG Cymru, Archebu lle
- Dydd Sadrwrn 29ain – Mae GIG Cymru yn cefnogi Pride Cymru, Diweddariadau Pride Cymru
Meddai Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, “Mae’r Bwrdd Iechyd yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ers amser maith ac yn ddiweddar prynodd faneri enfys a llinynnau gwddf ar gyfer staff, gan atgyfnerthu ymrwymiad y bwrdd iechyd tuag at fod yn gyflogwr cynhwysol LGBT. “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda sefydliadau eraill ledled Cymru i gefnogi Pride Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd staff ein bwrdd iechyd ein hunain yn cymryd rhan yn y ddau ddigwyddiad cenedlaethol, ond hefyd yn ein rhwydwaith staff ein hunain sef ENFYS.” Dywed rhwydwaith ENFYS, “Dyma #YourPride #EichPrideChi. Ymunwch i ddangos cefnogaeth i’r gymuned LGBTQ + a dathlu’r amrywiaeth o fewn ein gweithlu GIG. ” I gael mwy o wybodaeth am gadw’ch lle neu gymryd rhan yn unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, e-bostiwch LGBT.historymonth@wales.nhs.uk Os hoffech ddarganfod mwy am rwydwaith staff Hywel Dda ENFYS gallwch eu dilyn ar Twitter @HDdaLGBTQ.













