- Advertisement -
Home Hywel Dda GWASANAETH AR-LEIN NEWYDD WEDI’I GYFLWYNO I FONITRO IECHYD Y GALON RHWNG APWYNTIADAU

GWASANAETH AR-LEIN NEWYDD WEDI’I GYFLWYNO I FONITRO IECHYD Y GALON RHWNG APWYNTIADAU

0
72
- Advertisement -

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflwyno Asesiadau Digidol; ffordd newydd o helpu cleifion i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eu hiechyd rhwng apwyntiadau.

Bydd cleifion addas sy’n derbyn gofal gan ein Gwasanaeth Swyddogaeth y Galon yn derbyn negeseuon testun neu e-bost gyda dolen nhs.my i ffurflen Asesu Digidol i ateb cwestiynau am symptomau, iechyd corfforol ac ansawdd bywyd.

Bydd y tîm sy’n gyfrifol am eich gofal yn gallu adolygu’r wybodaeth a ddarperir yn yr Asesiad Digidol, gan ganiatáu iddynt wirio’ch cynnydd a deall eich iechyd rhwng eich apwyntiadau.

- Advertisement -

Mae’r ddolen nhs.my yn y neges destun a’r e-bost yn ddibynadwy ac yn cael ei ddarparu gan DrDoctor, gwasanaeth sydd wedi’i achredu i’r safonau uchaf a osodwyd gan y GIG ar gyfer amddiffyn gwybodaeth gofal iechyd dinasyddion y DU.

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei storio’n ddiogel y eich cofnod claf.

Dywedodd Dr Phil Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n wych ein bod yn gallu cyflwyno Asesiadau Digidol am y tro cyntaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer cleifion addas sydd o dan ofal ein Gwasanaeth Swyddogaeth y Galon.

“Nid yw Asesiadau Digidol yn disodli gofal meddygol. Bydd y wybodaeth a ddarperir trwy’r platfform diogel hwn yn monitro symptomau gartref yn rheolaidd i’n helpu i ddeall eich iechyd yn well a gwneud y defnydd gorau o’r amser a dreulir gyda’ch tîm clinigol.

“Rydyn ni’n gobeithio ehangu’r gwasanaeth hwn yn fuan i wahanol glinigau a gwasanaethau gan gynnwys gwasanaethau trawma ac orthopaedeg a gofal llygaid.”

Os yw’ch meddyg neu’ch nyrs wedi’ch adnabod chi fel claf addas i ddefnyddio Asesiadau Digidol, byddwch chi’n derbyn neges destun neu e-bost yn awtomatig yn gofyn i chi lenwi’r ffurflen ar-lein rhwng eich apwyntiadau.

Mae’n bwysig bod gennym eich rhif ffôn symudol cywir, enw llawn, cod post, dyddiad geni ac e-bost fel y gallwch fewngofnodi i lenwi’ch ffurflen ar-lein. Os oes angen i chi ddiweddaru eich manylion cyswllt, ffoniwch ni ar 0300 303 9642.

- Advertisement -
Previous articleCymerwch ran yn #NHSVirtualPride eleni
Next articleTemporary field hospitals handed back to Carmarthenshire council
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content