Fe wnaeth Curtis Roberts a Tom Harris ymgymryd â Her Goggins a chodi swm anhygoel o £1,475 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.
Mae Her Goggins yn ddigwyddiad ffitrwydd a chaledwch meddyliol wedi’i ysbrydoli gan David Goggins, cyn-SEAL y Llynges, rhedwr ultramarathon ac awdur.
Mae’r her anodd yn brawf dygnwch eithafol sy’n gwthio’r corff a’r meddwl i’r terfyn llwyr, sy’n cynnwys rhedeg pedair milltir bob pedair awr am 48 awr.
Cymerodd y ddau, sy’n aelodau o Glwb Pêl-droed Llangennech, yr her ar 8fed Mai a rhannu’r arian rhwng eu clwb pêl-droed a’r uned cemotherapi i ddiolch iddynt am y gofal a gafodd tad-yng-nghyfraith Curtis yno.
Dywedasant: “Roedd yr her hon yn ymwneud â chaledwch meddyliol, gwaith tîm, a gwthio trwy anghysur dros achos gwirioneddol ystyrlon.
“Roedd yn heriol, yn hwyl, yn emosiynol ac yn rhagori ar ddisgwyliadau gyda faint o bobl a ddaeth ynghyd i’n cefnogi ar wahanol rannau o’r her a rhoddion. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth, anogaeth, a haelioni.”
Dywedodd Kath Watkins, Prif Nyrs: “Ar ran y staff a’r cleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, hoffwn ddiolch i Curtis a Tom am eu hymdrechion codi arian a arweiniodd at rodd hael iawn o £1,475.
“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch!”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Curtis a Tom am ymgymryd â her mor anodd er budd ein helusen.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Am fwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i hywelddahealthcharities.nhs.wales












