- Advertisement -
Home More News Newyddion Lle Dyn wedi’i wahardd o ganol tref Llanelli wedi’i garcharu ar ôl dyrnu...

Dyn wedi’i wahardd o ganol tref Llanelli wedi’i garcharu ar ôl dyrnu PCSO yn ei wyneb

0
32
- Advertisement -

nl-logo

Mae dyn a ddyroddodd PCSO yn ei wyneb ar ôl torri gorchymyn yn ei wahardd o ganol tref Llanelli wedi cael ei garcharu.

Fe ffrwydrodd Richard Gregory pan ddaeth y PCSO ato yn Church Street ddydd Llun, Mehefin 8, gan ei ddyrnu yn ei wyneb ac achosi cleisio a gwaedu.

- Advertisement -

Achoswyd anafiadau pellach pan wrthwynebodd y dyn 46 oed ei arestio, gyda’r PCSO yn dioddef toriadau i’w ddwylo a’i freichiau.

Daw’r digwyddiad ychydig fisoedd ar ôl i Gregory, heb gartref sefydlog, ymosod ar heddwas trwy boeri yn ei wyneb – digwyddiad a gafodd ei ystyried yn ystod ei ddedfrydu.

Dywedodd y Rhingyll Mike Ross: “Roedd y PCSO wedi bod ar batrôl pan welodd Gregory yng nghanol y dref, ac roedd yn gwybod iddo gael rhybudd o’r blaen i beidio â bod yn yr ardal.

“Daeth Gregory yn ddig ac yn ymosodol ar lafar ar unwaith, a bu’n rhaid ei rybuddio am ei ymddygiad oherwydd bod aelodau’r cyhoedd yn bresennol.

“Parhaodd gyda’i ymddygiad ymosodol, a cheisiodd redeg i ffwrdd. Pan ddaliodd y PCSO gydag ef, ymosodwyd arno. ”

Galwodd y PCSO am gymorth, a chafodd Gregory ei arestio a’i gludo i’r ddalfa. Cyhuddwyd Gregory o ymosod ar weithiwr brys a throsedd o dan y Ddeddf Trefn Gyhoeddus.

Ymddangosodd yn Llys Ynadon Abertawe ar Fehefin 9 a chafodd ei ddedfrydu i 18 wythnos yn y carchar.

Gan fod y diffynnydd wedi cael dedfryd ohiriedig am y drosedd flaenorol ym mis Hydref, cafodd ei ddedfrydu i wyth wythnos arall yn y carchar.

Bydd yn bwrw dedfryd gyfan o 26 wythnos.

Dywedodd Rhingyll Ross: “Diolch byth yn y digwyddiad hwn, ni ddioddefodd ein PCSO anafiadau difrifol ac roedd yn gallu aros ar ddyletswydd.

“Fodd bynnag, nid yw hynny’n tynnu oddi ar y ffaith yr ymosodwyd arno tra ar ddyletswydd, trosedd yr ydym yn ei chymryd o ddifrif.

“Ni fyddwn yn goddef ymosodiadau nac ymddygiad ymosodol tuag at weithwyr y gwasanaeth brys, sy’n cyflawni eu dyletswydd i amddiffyn y cyhoedd.

“Hoffem ddiolch i’r llys am eu cefnogaeth. Mae hyd y ddedfryd o garchar yn adlewyrchu difrifoldeb y digwyddiad. ”

- Advertisement -
Previous articleAlmost 2,000 families benefit from digital support
Next articleWelsh Government Must Step Up To Support Arts Sector

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content