
Cynhaliodd aelodau o Glwb Golff Casnewydd ddiwrnod golff elusennol a chodi £1,200 gwych i Ysbyty Llwynhelyg.
Roedd yn gystadleuaeth ar y cyd i ferched a phobl hŷn, a gynhaliwyd o dan reolau pellhau cymdeithasol, gyda 50 aelod yn cymryd rhan.
Daeth yr arian a godwyd o ffioedd mynediad, raffl ac ocsiwn.
Dywedodd Maurice Weavers, a oedd yn gapten hŷn pan gynhaliwyd y digwyddiad, ei fod yn ddiwrnod gwych ac roedd yr aelodau’n falch eu bod wedi codi arian ar gyfer Ysbyty “gwych” Llwynhelyg.
“Roedden ni eisiau helpu, i wneud ein rhan. Mae’n anodd iawn i staff y GIG ar hyn o bryd ac rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw, ”meddai.
“Mae nifer o’n haelodau yn nyrsys wedi ymddeol o Llwynhelyg ac mae llawer o’n haelodau wedi cael eu trin yno. Mae’r gofal yno wedi bod yn rhagorol erioed. ”
Mae’r lluniau’n dangos Maurice a’i is-gapten Mike Prager ar y pryd; ac yna capten y marched Linda Seaton a’i his-gapten Sue Waterhouse.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae’n edrych fel ei fod yn ddiwrnod elusennol gwych. Rydym yn ddiolchgar iawn i Glwb Golff Casnewydd am eu cefnogaeth i Ysbyty Llwynhelyg.
“Mae codi arian a rhoddion gan ein cymunedau lleol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a staff y GIG yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
“Os hoffai unrhyw un gyfrannu, gallant wneud hynny yma: https://www.justgiving.com/hywelddahealthcharities.”
The post Elusennau Iechyd Hywel Dda ar ddiwrnod golff elusennol Casnewydd first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.















