- Advertisement -
Home More News Llanelli Y Cynghorydd Dyfrig Thomas

Y Cynghorydd Dyfrig Thomas

0
106
- Advertisement -

Gyda thristwch mawr bu i Gyngor Tref Llanelli nodi marwolaeth y cyn -gynghorydd Tref a Sir Dyfrig Thomas ar ddydd Sul y 1af o Ionawr. 

Roedd Dyfrig yn aelod o Gyngor y Dref am flynyddoedd lawer gan gynrychioli Ward Tyisha o 1999 tan 2004 a Ward Bigyn yn y cyfnod 2008 – 2017.  Bu hefyd yn Faer Tref Llanelli yn y flwyddyn 2010 – 2011.

Yn ystod yr amser yma fe wasanaethodd Dyfrig ei gymunedau yn rhagorol dros ben.  Roedd parch mawr gan ei gyfeillion a staff y Cyngor amdano ac yr oedd bob amser ar gael i Gynghorwyr profiadol a rhai oedd newydd eu hethol ar gyfer darparu cyngor, arweiniad a chyfeillgarwch ar draws y siambr.  Roedd hefyd yn gyn-lywodraethwr ysgolion Coedcae a Maesllyn.

- Advertisement -

Roedd gan Dyfrig Radd Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth ac am amser maith roedd yn ymgyrchydd brwd dros gyfiawnder cymdeithasol a thros Gymru.  O ganlyniad i’w ymrwymiad a’i angerdd dros yr iaith Gymraeg ei diwylliant a’i threftadaeth, agorodd siop lyfrau Cymraeg cyntaf Llanelli, sef “Siop y Werin” ar Stryd y Farchnad.

Mae Cyngor y Dref yn estyn ei gydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Dyfrig yn ystod yr amser anodd hwn.

- Advertisement -
Previous articleCouncillor Dyfrig Thomas
Next articleTributes paid to former Llanelli Mayor, Dyfrig Thomas

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content