Mae ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i gryfhau addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith drwy Wobr Ansawdd Gyrfa Cymru (GAGC) – wrth i’r cofrestru agor i fwy o ysgolion ledled y wlad allu cymryd rhan.
Ers ei lansio ym mis Medi 2023, mae 66 o ysgolion a lleoliadau o bob cwr o Gymru wedi cymryd rhan yng nghynllun peilot y gwobrau, gan gynnwys ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, a darpariaethau addysg heblaw yn yr ysgol. Roedd hyn yn cynnwys Ysgol Glan-y-Môr, Ysgol Bro Dinefwr, Ysgol Gynradd Llandybie ac Ysgol Gynradd Gymunedol Porth Tywyn.

Mae ysgolion peilot eisoes yn gweld buddion, gydag adborth yn dangos:
- Arweinyddiaeth a chynllunio cryfach ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
- Mwy o lais i ddysgwyr
- Gwell ymgysylltu â rhieni, cyflogwyr a chymunedau
- Mwy o hyder gan athrawon wrth gyflwyno dysgu sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd.
Mae’r canlyniadau cynnar hyn yn dangos sut y gall y wobr gefnogi ysgolion i adeiladu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ystyrlon o ansawdd uchel i ddysgwyr 3 i 16 oed sy’n gydnaws â’r Cwricwlwm i Gymru.

Wrth i’r cyfnod peilot ddod i ben, mae cofrestru bellach ar agor i ysgolion newydd gymryd rhan yng Ngwobr Ansawdd Gyrfa Cymru o fis Medi 2026.
Mae’r wobr wedi’i strwythuro ar draws tri cham – arweinyddiaeth, datblygiad ac effaith – gan arwain ysgolion o osod dull strategol clir ar gyfer addysg gyrfaoedd, hyd at ymgorffori addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn y cwricwlwm, ac yna dangos y gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i ddysgwyr.
Mae ysgolion o’r cynllun peilot wedi gweithio’n agos gyda chydlynwyr cwricwlwm Gyrfa Cymru i helpu i lunio a mireinio’r wobr cyn ei chyflwyno’n genedlaethol. Bydd y lansiad cenedlaethol llawn yn cyflwyno lefelau gwobrau efydd, arian ac aur, gan gynnig hyblygrwydd ac ar yr un pryd yn cydnabod cyflawniadau a chynnydd ysgolion wrth ddatblygu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith o ansawdd uchel.
Dywedodd Mark Owen, Pennaeth Gwasanaethau i Randdeiliaid Gyrfa Cymru: “Hoffwn longyfarch pob ysgol a lleoliad sydd wedi cymryd rhan yng nghynllun peilot Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru. Mae eu hymrwymiad a’u parodrwydd i gydweithio wedi bod yn hanfodol wrth ein helpu ni i lunio gwobr sy’n cefnogi ysgolion yn effeithiol.
“Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith o ansawdd uchel yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu dysgwyr i ddeall eu hopsiynau a datblygu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol. Mae’r wobr ansawdd yn rhoi fframwaith clir a chefnogol i ysgolion i ymgorffori’r gwaith hwn ar draws eu cwricwlwm, mewn ffordd sy’n gydnaws â’r Cwricwlwm i Gymru.
“Mae’r effaith gadarnhaol rydym eisoes yn ei gweld yn galonogol iawn i ni ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu mwy o ysgolion i gymryd rhan wrth i’r wobr agor yn ehangach yn ddiweddarach eleni.”
I gofrestru eich diddordeb mewn dechrau’r wobr ym mis Medi, llenwch y ffurflen hon, neu ewch i wefan Gyrfa Cymru am ragor o wybodaeth.













