Mae heddiw (dydd Mawrth, 14 Gorffennaf) yn nodi 60 mlynedd i’r diwrnod ers buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin ar 14 Gorffennaf 1966, lle daeth yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.

60 mlynedd ers cipio’r sedd, mae Plaid Cymru bellach yn brif blaid yn Senedd Cymru ac yn arwain llywodraeth leiafrifol yng Nghaerdydd, gyda thri Aelod o’r Senedd o Sir Gaerfyrddin yn perthyn i’r blaid.
Mewn datganiad ar y cyd, talodd Ann Davies AS, Cefin Campbell AS, Nerys Evans AS ac Adam Price AS deyrnged i etifeddiaeth Gwynfor Evans a myfyrion nhw ar y daith y mae Cymru wedi bod arni ers y trobwynt hwnnw:
“Chwe deg mlynedd yn ôl, bu pobl Caerfyrddin yn rhan o hanes wrth iddynt ethol Gwynfor Evans yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.
“Roedd ei fuddugoliaeth yn drobwynt nid yn unig i Blaid Cymru, ond i’n cenedl gyfan. Drwy ei weledigaeth, ei arweinyddiaeth, ei ddewrder a’i ffydd ddiwyro yng ngwerth cynhenid Cymru – ei phobl, ei hiaith a’i diwylliant, gosododd Gwynfor y seiliau ar gyfer datblygiad gwleidyddol Cymru dros y chwe degawd diwethaf. O osod seiliau etholiadol Plaid Cymru, cryfhau statws y Gymraeg ac ennill y frwydr dros sefydlu S4C, mae ei etifeddiaeth yn parhau i lunio ein cenedl hyd heddiw.
“Rydym yn hynod falch, fel aelodau etholedig dros Sir Gaerfyrddin, o fod yn rhan o stori wleidyddol y sir – yn rhan o’r olyniaeth sy’n ymestyn o 1966 hyd heddiw gyda llywodraeth Plaid Cymru mewn grym ym Mae Caerdydd.”








