- Advertisement -
Home Campaigns Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021

0
101
- Advertisement -

Heddiw ar Fawrth yr 8fed yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae’n ddathliad blynyddol i gymryd amser i fyfyrio ar gyflawniadau menywod, codi ymwybyddiaeth am gydraddoldeb menywod a chodi arian am elusennau menywod.

Wnaethon ni gyfweld â menywod yn Llanelli i ofyn nhw gwestiynau am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod:

1. Beth yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn golygu i chi?

- Advertisement -

Lauren: “Mae’n golygu cydnabyddiaeth o’r dyfodol rydym yn adeiladu ar gyfer menywod a merched. Mae’r diwrnod yn atgoffa fi o ba mor bell rydym wedi dod a pha mor bell mae ‘na i fynd am gydraddoldeb.”

Becca: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i fi, yn golygu cyfle i ffocysu ar gyflawniadau arbennig menywod, a’r anghydraddoldeb sydd dal i fodoli.”

Kaiya: “Mae’n golygu dathlu a gwerthfawrogi popeth mae menywod wedi bod trwy a phopeth rydym wedi cyflawni, a mynegi hynny mewn ffordd bositif.”

2. Pa gyflawniad gan fenyw neu fenywod sydd yn ysbrydoli chi?

Lauren: “Mae Fiona O’Brien a Casey Lalonde o Girls Who Grind Coffee yn fy ysbrydoli i. Maen nhw yn dîm o fenywod sydd yn rhedeg busnes rhostio coffi. Maen nhw ond yn defnyddio coffi o gynhyrchwyr sydd yn fenywod. Mae ei chenhadaeth yn arbennig, ac mae’r coffi yn flasus iawn Hefyd.”

Becca: “Rydw i’n edmygu menywod sydd yn cymryd ei phrofiad byw a throi e mewn i rywbeth da, yn defnyddio e i newid y dirwedd i eraill neu i godi ymwybyddiaeth. Does dim rhaid i unrhyw un gwneud hynny, ond dwi’n edmygu e pryd mae e yn digwydd. Does dim byd mwy pwerus na rhannu profiadau a menywod eraill.”

Kaiya: “Mae miloedd o gyflawniadau menywod wedi fy ysbrydoli i. Un sydd yn sefyll allan yw’r gantores Billie Eilish, achos pa mor ifanc yw hi, a gymaint mae hi wedi cyflawni, gyda’r ods yn ei herbyn hi.”

3. Pa elusen ar gyfer menywod dylen ni wybod amdano?

Lauren: “Elusen werth wybod amdano yw Menywod mewn Chwaraeon (Women in Sport). Maen nhw’n credu fod menywod a merched yn colli allan ar fuddion cymryd rhan mewn chwaraeon ac maen nhw’n gwneud rhywbeth amdano fe. Maen nhw’n ymchwilio mewn i chwaraeon o bersbectif menywod a merched, ac yn ymgyrchu am gydraddoldeb yn Chwaraeon.”

Becca: “Mae’r elusen, Cymorth i Fenywod Cymru (Welsh Women’s Aid) yn elusen sbesial iawn. Mae’r gwaith maen nhw’n gwneud yn arbennig. Maen nhw’n rhedeg llinell gymorth ‘Byw Heb Ofn’ sydd yn helpu pobl sydd wedi cael ei heffeithio gan drais yn y cartef. Maen nhw yn gweithio i addysgu pobl ar draws Cymru ar atal trais yn erbyn menywod. Maen nhw yn ymgyrchu am amddiffyniad gwell a gwasanaethau gwell am fenywod. Maen nhw yn elusen sydd efo ffocws llwyr ar greu Cymru well i fenywod a merched.”

Kaiya: “Sai’n siŵr am elusen, ond mae’r mudiad ‘Free Britney’ yn un amlwg iawn ar y foment. Mae’r seren pop o dan geidwadaeth ei Dad, a dyw hi heb gael rheolaeth dros ei fywyd am dros 20 o flynyddoedd. Mae hi’n fenyw efo hawliau ei hun, a dal i fod yn un o’r bobl fwyaf poblogaidd yn y byd. Mae yna lot o ymgyrchu yn digwydd nawr.”

- Advertisement -
Previous articleInternational Women’s Day 2021
Next articleWelsh Government Exceeds Apprenticeships Manifesto Pledge

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content