- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Gweithwyr gofal iechyd o Ysbyty Tywysog Philip yn ymgymryd â nifer o...

Gweithwyr gofal iechyd o Ysbyty Tywysog Philip yn ymgymryd â nifer o heriau dros elusen

0
22
- Advertisement -

Mae tîm gofal iechyd Hywel Dda yn codi arian i’r rhai sy’n byw gyda salwch anadlol ledled gorllewin Cymru trwy ymgymryd â nifer o heriau dringo.

Mae aelodau staff o Adran Resbiradol Ysbyty Tywysog Philip yn codi arian ar gyfer eu gwasanaeth ac yn codi ymwybyddiaeth o afiechydon resbiradol trwy wneud amrywiol weithgareddau, gan gynnwys cerdded mynyddoedd Cymru a rhedeg.

Mae’r tîm eisoes wedi concro Pen y Fan ac wedi cwblhau digwyddiad 10k Llanelli. Nesaf ar eu rhestr yw dringo Corn Du, Cribyn a Fan y Big.

- Advertisement -

Mae’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gweithio i’r Adran Resbiradol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn cefnogi cleifion sy’n byw gydag asthma, COPD a chyflyrau resbiradol eraill.

Eu nod yw codi arian ar gyfer yr adran trwy ymgymryd â heriau lluosog.

Dywedodd Kelly Diana, Nyrs Resbiradol: “Rydym yn codi arian trwy wneud amrywiol weithgareddau fel dringo Corn Du, Pen Y Fan, Cribyn, Fan Y Big a rhedeg i wella adnoddau ein hadran – o offer ychwanegol a deunyddiau addysg cleifion i brosiectau arloesol sy’n helpu pobl i anadlu’n haws a byw bywydau iachach.

“Mae pob rhodd, mawr neu fach, yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella gofal cleifion a chefnogi ein tîm gweithgar i barhau â’r gwaith hanfodol hwn.”

Ychwanegodd: “Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r rhai sy’n byw gydag afiechydon resbiradol ledled Gorllewin Cymru. Diolch am ein helpu ni i helpu eraill – un anadl ar y tro.”

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i bawb o’r Adran Resbiradol sydd wedi ymgymryd â’r heriau gwych hyn! Allwn ni ddim aros i glywed canlyniad pob her.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd a dderbyniwn, ni waeth pa mor fach neu fawr. Nid yw’r rhoddion elusennol a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Fe’u defnyddir i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG.”

Gallwch gefnogi ymgyrch codi arian y tîm yma:https://www.justgiving.com/page/respiratoryteam

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i  https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/

- Advertisement -
Previous article48-hour fishing competition raises £1,200 for the Wish Fund
Next articleHealthcare workers from Prince Philip Hospital take on multiple challenges for charity
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content