- Advertisement -
Home More News Newyddion Lle Ymestyn Cynllun Cymorth Gofal Plant Coronafeirws

Ymestyn Cynllun Cymorth Gofal Plant Coronafeirws

0
51
- Advertisement -

nl-logo

Mae’r Cynllun Cymorth Gofal Plant Coronafeirws, sy’n cefnogi cost gofal plant i blant 0-3 oed ar gyfer gweithwyr critigol yn ystod y pandemig coronafeirws, wedi cael ei ymestyn tan 31 Awst.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn parhau i ddarparu gofal plant wedi’i ariannu ar gyfer plant cyn oed ysgol gweithwyr critigol, yn ogystal â phlant agored i niwed.

- Advertisement -

Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd yn cau i newydd-ddyfodiaid o ganol mis Gorffennaf ymlaen. Caiff hyn ei gadarnhau cyn gynted â phosibl.

Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru hefyd wedi’i atal o hyd i newydd-ddyfodiaid tan ddechrau mis Medi.

Dylai gweithwyr critigol yn Sir Gaerfyrddin barhau i ddefnyddio’r ffurflen archebu ar wefan y Cyngor i gofrestru ar gyfer gofal plant.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae’n bwysig o hyd bod gweithwyr critigol yn parhau i dderbyn cymorth gofal plant ar yr adeg hon, fel y gallant barhau â’u gwaith hanfodol wrth ymateb i’r pandemig coronafeirws, gan wybod bod eu plant yn cael gofal da.

“Mae lleoliadau gofal plant gan gynnwys meithrinfeydd dydd, gwarchodwyr plant, cylchoedd meithrin a chanolfannau Dechrau’n Deg ledled y sir yn parhau i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr i rieni, gan sicrhau bod plant yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel yn ystod yr amser ansicr iawn hwn.

“Mae’r staff yn gwneud gwaith anhygoel a hoffwn ddiolch o galon i chi am ddarparu gwasanaeth mor hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn, a galluogi ein gwasanaethau critigol i barhau.

- Advertisement -
Previous articleEMERGENCY FOODBANK SUPPORTS HENDY RUGBY CLUB
Next articleBeware Of Scammers

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content