Mae’r Wythnos Gyrfaoedd Genedlaethol yn ôl, gyda’r thema ‘Llunio Eich Dyfodol’, gan ddangos sut y mae cyfarwyddyd gyrfaoedd ac adnoddau addysgol am ddim ledled y DU yn helpu pobl i gymryd perchnogaeth o’u llwybr gyrfa.
I Lowri Bullen, 23 oed o Lanelli, chwaraeodd cyfarwyddyd gyrfaoedd rôl allweddol wrth ei helpu i ddewis y llwybr cywir ar ôl gorffen ei chwrs arlwyo Lefel 3.
“Doeddwn i ddim yn siŵr a ddylwn i fynd i mewn i waith llawn amser neu wneud cwrs arall yn y coleg,” eglurodd.
Clywodd am Gyrfa Cymru drwy ddarlithwyr yn ei choleg, a chafodd ei rhoi mewn cysylltiad â Lara Bagagiolo, cynghorydd gyrfa sydd wedi’i lleoli ar y campws.
Gwnaeth Lara helpu Lowri i archwilio dau brif lwybr: dychwelyd i’r coleg i astudio Teithio a Thwristiaeth Lefel 2, neu fynd i gyflogaeth amser llawn.
“Yn y cyfarfod cyntaf, fe wnaethon ni ystyried beth oedd fy opsiynau. Awgrymodd Lara i mi wneud rhestr o fanteision ac anfanteision i’m helpu i benderfynu beth fyddai’r dewis gorau i mi,” meddai Lowri.
Cwblhaodd y rhestr gartref, ac yn ystod eu cyfarfod nesaf buont yn trafod pob pwynt yn fanwl. Defnyddiodd Lara dechnegau delweddu hefyd i helpu Lowri i ddeall beth oedd yn teimlo’n iawn.
Drwy’r sgyrsiau hyn, sylweddolodd Lowri y byddai’n teimlo’n hapusach yn mynd yn ôl i’r coleg.
“Es i i noson agored, a siaradais â’r darlithwyr ym maes Teithio a Thwristiaeth i weld a oedd y cwrs yn addas i mi. Ar ôl hynny, penderfynais wneud cais am Lefel 2,” meddai.
Hefyd, helpodd Lara Lowri i ddiweddaru ei CV, gan gynnwys profiad gwaith newydd yr oedd wedi’i ennill.
Mae Lowri bellach wedi cyrraedd diwedd ei chwrs ac y mae’n canolbwyntio ar ei chamau nesaf. Mae hi’n teimlo’n llawer mwy hyderus am ei dyfodol, ac ar hyn o bryd mae hi’n gwneud cais am brentisiaethau i ddod yn asiant teithio.
“Mae’r gefnogaeth wedi dangos i mi y gallaf osod nodau i mi fy hun, ac edrych am y camau nesaf yn fy mywyd,” meddai.
Mae hi’n gwerthfawrogi’n arbennig y gefnogaeth barhaus a ddarparwyd gan Lara drwy gydol ei thaith.
“Mae wedi bod yn hyfryd gweithio gyda Lara. Mae hi mor gefnogol, ac os byddaf i’n ei gweld o gwmpas y coleg, gallaf bob amser gael sgwrs â hi. Mae hi’n unigolyn gwych i fod o’i chwmpas.”
Mae ei neges i eraill yn glir: “Cysylltwch â Gyrfa Cymru ar unwaith. A thra byddwch chi’n aros am eich apwyntiad cyntaf, edrychwch ar wefan Gyrfa Cymru i weld pa gyfleoedd sydd ar gael.”
Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â Gyrfa Cymru heddiw.













